Papur Tystiolaeth cyn Sesiwn Graffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – 24.06.2019

 

Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ‘Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau’

 

Diben y papur hwn yw darparu Tystiolaeth Ysgrifenedig i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ‘Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau’ a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018.

 

Adran 1: Y trefniadau gweinyddol a’r systemau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i reoli ac i fonitro ei gymorth ariannol ar gyfer busnesau.

 

Adran 2: Sut mae Llywodraeth Cymru yn rhoi trefniadau ar waith er mwyn rheoli ei gymorth ariannol ar gyfer busnesau o dan y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

 

Adran 3: Bwrdd Cynghori newydd y Gweinidog

 

Adran 4: Cydlyniaeth gyffredinol y gwahanol ffyrdd o ddarparu cymorth ariannol i fusnesau, gan gynnwys pa mor dryloyw yw cael mynediad at gymorth ariannol, yn ogystal â sut a pham mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu pa fecanwaith y mae’n ei ddefnyddio i ddarparu’r cymorth hwnnw.

 

Adran 5: Diweddariad ar awgrymiadau yn adroddiadau’r PCC – Kancoat, Cylchffordd Cymru a Pinewood.

_________________________________________________________________

 

Ein rôl wrth ddarparu cymorth ariannol ar gyfer busnesau yw cynorthwyo Gweinidogion i gyflawni’n llwyddiannus yr ymrwymiadau a amlinellir o fewn amcanion polisi allweddol a nodir yn Ffyniant i Bawb, Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi eu hanelu at wella bywydau pobl yng Nghymru.

Mewn cyd-destun cyllidebau sy’n lleihau, mae’n bwysig bod amcan ein cyllid yn seiliedig ar egwyddorion y fframwaith rydym yn gweithredu ynddynt, sy’n cynnwys:

·         Cyllidwr pan fetha popeth arall, drwy gefnogi mynediad at fuddsoddiad sy’n seiliedig ar ddyled breifat a chyhoeddus

·         Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol

·         Asesiad gwerth am arian

·         Canllawiau Llyfr Gwyrdd y Trysorlys.

Adran 1: Y trefniadau gweinyddol a’r systemau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i reoli ac i fonitro ei gymorth ariannol ar gyfer busnesau

 

Rhan allweddol o’r trefniadau a’r systemau gweinyddol sy’n cael eu defnyddio i reoli cymorth ariannol ar gyfer busnesau’r adran yw’r broses diwydrwydd dyladwy ac arfarnu, a’r defnydd o’n system Cyfrifon Busnes (BAS). Drwy gydol y prosiect, bydd BAS yn cael ei ddiweddaru i ddangos cynnydd y prosiect ac i sicrhau bod cyswllt cyson yn cael ei wneud â chwsmeriaid.

 

Fel gofyniad cyn-gymhwyso ar gyfer cyllid, mae’n rhaid i fusnesau ddangos ymrwymiad i bedwar conglfaen y Contract Economaidd. Mae’n rhaid i’r dogfennau cysylltiedig gael eu cymeradwyo gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

Yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael, bydd busnesau yn cael eu gwahodd i wneud cais ar gyfer y cynllun mwyaf addas o fewn Cronfa Dyfodol yr Economi, yn unol â Meysydd Gweithredu’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

 

Ar ôl cael ffurflen gais gyflawn, bydd y Rheolwr Cysylltiadau o fewn y Tîm Busnes a Rhanbarthau, Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, yn cwblhau arfarniad o’r prosiect, gan gynnwys ymgymryd â diwydrwydd dyladwy ariannol. Yn dibynnu ar natur y prosiect, bydd diwydrwydd dyladwy ariannol unai yn cael ei wneud gan y Rheolwr Cysylltiadau neu gan aelod o Dîm Ymchwilio i Gyfrifon, sy’n cefnogi’r Tîm Busnes a Rhanbarthau.  Yn ychwanegol, bydd y Tîm Cynghori Buddsoddiadau yn cynnal proses sicrhau ansawdd wrth i'r prosiect gael ei arfarnu.

 

Bydd yr arfarniad yn cynnwys ystyriaethau sy’n cyd-fynd â gwerth am arian, angen am gyllid, Cymorth Gwladwriaethol ac asesiad risg. Pan fydd yr arfarniad wedi ei gwblhau, bydd y Rheolwr Cysylltiadau yn gwneud argymhellion i gefnogi neu i wrthod y cais. Bydd rhaid i hyn gael ei gefnogi gan y Prif Swyddog Rhanbarthol/Dirprwy Gyfarwyddwr o fewn yr adran.

 

Mae Diwydrwydd Dyladwy, sy’n cael ei gynnal ar gyfer prosiectau, yn cyd-fynd â lefel y buddsoddiad sy’n cael ei ystyried. Rydym yn parhau i ddysgu o’n profiadau ac yn datblygu ein prosesau diwydrwydd dyladwy.

 

Fel rhan o’r broses cymeradwyo cyllid, bydd y cais yn cael ei gyflwyno i Banel Buddsoddi Mewnol Llywodraeth Cymru, neu i’r Bwrdd Cynghorol ar Ddatblygu Diwydiannol Cymru* ar gyfer argymhelliad terfynol, yn dibynnu ar lefel y cymorth sy’n cael ei argymell.  *gweler adran 3. 

 

Mae grantiau Ymchwil a Datblygu, sy’n cael eu talu dan brosiect SMART Cymru sy’n cael ei gyllido gan yr UE, yn mynd trwy broses ddilysu mewnol yn dilyn canllawiau’r WEFO sy’n cydnabod anghenion penodol prosiectau ymchwil a datblygu.

 

Bydd y cais yn cael ei gyflwyno drwy Gyngor Gweinidogol i’r Gweinidog, a bydd yn cynnwys amlinelliad o'r prosiect, y risgiau sydd wedi eu nodi ac argymhellion y Panel Buddsoddi neu’r Bwrdd Cynghorol ar Ddatblygu Diwydiannol Cymru. Mae’r Gweinidog yn penderfynu cefnogi neu wrthod yr argymhelliad.

 

Yna, mae llythyr dyfarnu neu lythyr gwrthod yn cael ei gyhoeddi. Bydd y llythyr dyfarnu’n cynnwys telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru, ac unrhyw amodau penodol sy’n berthnasol i’r dyfarniad unigol. Bydd llythyr gwrthod yn cynnwys rhesymau pam na all Llywodraeth Cymru gefnogi’r cais.

 

Pan fo’r busnes yn derbyn y llythyr dyfarnu, mae’r achos yn cael ei roi i Swyddog Monitro o fewn y Tîm Busnes a Rhanbarthau sy’n asesu ac yn monitro’r prosiect yn unol â’r llythyr dyfarnu a gafodd ei dderbyn. Ar ôl i’r Swyddog Monitro gynnal asesiad boddhaol o'r dystiolaeth, mae’r achos yn cael ei roi i uwch swyddog sy’n gwneud yr ardystiad olaf cyn rhoi’r achos i’r Tîm Cyllid ar gyfer gwneud taliad.

 

Bydd rhandaliadau’n cael eu gwneud ar ôl cael ffurflen hawlio gyflawn, yn ogystal â thystiolaeth cefnogi angenrheidiol arall, fel y nodir yn y llythyr dyfarnu.  Fel y bo’n briodol, bydd ymweliadau monitro yn cael eu cynnal tra bod y prosiect ar waith.

 

 

Yna, mae’r taliad i'r hawlydd yn cael ei drefnu gan system gyllid Llywodraeth Cymru ‘SAP’ (proses grantiau Talu SAP) gan y Tîm Cyllid.

 

Pan fydd cam taliad y prosiect wedi’i gwblhau, ac os yw’n briodol, bydd yr achos yn cael ei roi i'r Tîm Monitro Ar Ôl Cwblhau, o fewn Adran yr Economi a Thwristiaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gofyn bod busnesau yn cadw asedau o fewn yr ardal am gyfnod penodol (3 neu 5 mlynedd). Pan fydd y cyfnod hwn yn dod i ben, bydd y tîm monitro yn gofyn am wybodaeth gan y busnes er mwyn sicrhau bod y gofyniad hwn wedi cael ei fodloni.

 

Ar ôl cwblhau’r cyfnod ar ôl monitro, bydd y prosiect yn dod i ben a bydd y busnes yn cael ei ryddhau o delerau ac amodau’r dyfarniad.

 

Rydym yn gweithredu dull o welliant parhaus yn y ffordd rydym yn gweinyddu ein cymorth ariannol, sy’n adlewyrchu ein gwybodaeth o sawl maes, gan gynnwys Archwiliadau Mewnol ac adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r adolygiadau hyn wedi arwain at gynhyrchu mwy o ganllawiau manwl ar gyfer swyddogion achos, cyngor clir ar asesiadau risg, a chyflwyno'r dull o oedi a myfyrio wrth reoli prosiectau.

 

Rheoli Monitro Cymorth Ariannol

 

Yn ogystal â’r data prosiect sy’n cael ei gadw ar BAS, mae Llywodraeth Cymru yn cadw data ariannol a data ar berfformiad ar gyfer pob prosiect sy’n derbyn cyllid o fewn Cyfrifon Rheoli.

 

Mae’r data ariannol yn cynnwys manylion y gyllideb flynyddol, cyfanswm gwerth y cynnig grant ar gyfer y prosiect, gwariant ‘o fewn y flwyddyn’ a gwariant blynyddoedd blaenorol ar y prosiect, ynghyd â gwariant a ragwelir ar gyfer gweddill ymrwymiad y cynnig grant, wedi’i rannu fesul blwyddyn. Mae’r gwir wariant yn cael ei gysoni i’r cyfriflyfrau yn system Gyllid Llywodraeth Cymru “SAP”.

 

Mae’r gwariant a ragwelir yn cael ei adolygu’n fisol ar y cyd â deiliaid cyllideb i sicrhau bod y gyllideb yn cael ei monitro’n effeithiol.

 

Mae’r cofnodion hyn yn y Cyfrifon Rheoli’n cael eu diweddaru’n amserol, ac maent yn darparu gwybodaeth fanwl sydd ei hangen er mwyn paratoi cyfrifon rheoli misol.

 

Adran 2: Sut mae Llywodraeth Cymru yn rhoi trefniadau ar waith er mwyn rheoli ei gymorth ariannol ar gyfer busnesau o dan y Cynllun Gweithredu ar yr Economi

 

Model Gweithredu Newydd

 

Yn ein Cynlluniau Gweithredu ar yr Economi, fe wnaethom nodi amcan polisi clir – i godi lefelau cyfoeth a lles ledled Cymru, gan leihau anghydraddoldeb yn y ddau.  Mae gan Lywodraeth Cymru amryw o ysgogiadau polisi ar gael i helpu i gyrraedd yr amcan hwnnw.  Dyma pam fod cwmpas y Cynllun mor eang. 

 

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod ein gallu i ddarparu cymorth i fusnesau yn un o’n liferi polisi pwysicaf a mwyaf dylanwadol.  Drwy reoli ein cymorth ariannol yn gall, rydym yn gallu dylanwadu ar ymddygiad cwmnïau sy’n derbyn ein cymorth, gan gydnabod wrth gwrs mai dim ond rhan o sylfaen busnes Cymru y mae ein cymorth ariannol i fusnesau yn ei gyrraedd. 

 

Wrth wraidd ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi, mae dull gweithredu polisi newydd er mwyn darparu a rheoli ein cymorth ariannol i fusnesau – grantiau yn bennaf (gweler adran 4 ar Fanc Datblygu Cymru).  Mae hwn yn ddull gweithredu newydd rydym yn cyfeirio ato fel ein model gweithredu newydd, sy’n cynnwys y Contract Economaidd, y Galwadau i Weithredu a Chronfa Dyfodol yr Economi. 

 

Mae gan bob rhan o'r model yrrwr polisi penodol sydd, ar y cyd, yn helpu i gefnogi ein hamcanion polisi sy’n ymwneud â chyfoeth a lles cyffredinol.  Er enghraifft, mae Contract yr Economi yn seiliedig ar yr amcan twf cynhwysol, sy’n golygu bod rhaid i fusnesau sydd eisiau ein cymorth ymddwyn yn gyfrifol. 

 

Rydym yn disgwyl i fusnesau ymrwymo i dwf, gwaith teg, lleihau eu holion traed carbon, iechyd, sgiliau a dysgu yn y gweithle.  Dyma’r math o ymddygiad sydd gan fusnesau cyfrifol a llwyddiannus eisoes.  Mae’r Contract Economaidd yn ein galluogi i gydnabod arferion da, a drwy ymgysylltiad, mae’n ein galluogi i annog eraill i ddilyn yr un trywydd.

 

Tra bod y Contract Economaidd yn canolbwyntio ar werthoedd ac ethos busnesau, mae’r gyrrwr polisi ar gyfer y Galwadau i Weithredu yn adlewyrchu pwysigrwydd buddsoddiad busnes mewn gweithgareddau sy’n gwella pa mor gynhyrchiol allant fod, ac sy’n gwneud yr economi yn addas ar gyfer y dyfodol.  Mae’r Galwadau i Weithredu yn darparu'r modd y byddwn yn cefnogi busnesau cyfrifol â’u gweithgareddau buddsoddi mewn ffordd glir, gan ganolbwyntio ar rai o'r heriau strategol y mae busnesau a’r economi yn eu hwynebu. 

 

Mae'r gyrrwr polisi ar gyfer Cronfa Dyfodol yr Economi yn adlewyrchu’r angen i wneud ein cymorth ariannol yn symlach.  Does dim amheuaeth bod busnesau’n gwerthfawrogi’r cymorth ariannol rydym yn ei gynnig, ac mae’n chwarae rôl bwysig wrth helpu rhai busnesau i gyflawni eu hamcanion o gynnal eu hunain ac i dyfu.  Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod cynlluniau, rhaglenni a chyllidebau rydym yn eu cynnig yn gallu bod yn ddryslyd ac yn gymhleth i fusnesau.  

 

Heb golli'r angen ar gyfer cyllid er mwyn cyflawni amcanion, rydym wedi ymateb i'r pryderon hynny, ac fel rhan o'r model, rydym wedi cymryd y cam i gyfuno nifer o’r cynlluniau presennol gyda Chronfa Dyfodol yr Economi fel bod y cymorth ariannol uniongyrchol rydym yn ei gynnig i fusnesau yn glir, yn hawdd ei ddeall, ac yn ymatebol. 

 

Contract Economaidd

 

Y Contract Economaidd yw’r fframwaith ar gyfer perthynas newydd â busnes. Dan y contract hwn, mae’n ofynnol bod busnesau’n dangos eu hymrwymiad i dyfu, gwaith teg, iechyd gweithwyr (gan gynnwys iechyd meddwl), sgiliau, a lleihau eu holion troed carbon.

 

Mae’r Contract Economaidd yn gam cyn-cymhwyso ar gyfer cyllid, ac nid yw bodloni’r cam hwn yn arwain yn awtomatig at gael mynediad at gyllid.

 

Mae’r Contract Economaidd yn gweithredu drwy ymgysylltu, cymhelliant ac arferion da, yn hytrach na thrwy rym cyfreithiol. Mae’n rhan o ddull gweithredu “rhywbeth am rywbeth” sydd wedi'i anelu at ddarparu buddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol. 

 

Hyd yma, mae mwy na 200 o Gontractau Economaidd wedi cael eu trafod a’u cytuno gyda busnesau ers ei lansio ym mis Mai 2018.

 

Byddwn yn defnyddio’r hyn rydym wedi’i ddysgu o'r Contract Economaidd er mwyn gweithredu egwyddorion y contract ar draws ein rhwydwaith gefnogi ehangach, fel Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.

 

 

Galwadau i Weithredu

 

Bydd disgwyl i fusnesau sydd eisiau cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Dyfodol yr Economi i gyfrannu at o leiaf un o’r pum Galwad i Weithredu, sydd wedi eu dylunio i oresgyn heriau’r dyfodol.

 

Y pum Galwad i Weithredu yw

o   Datgarboneiddio

o   Arloesi, Entrepreneuriaeth a Phencadlys

o   Allforio a Masnachu

o   Gwaith o ansawdd uchel, datblygu sgiliau a gwaith teg

o   Awtomatiaeth ymchwil a datblygu, a digidoleiddio

 

Bydd pob cynnig ar gyfer cyllid sy’n cael ei gyflwyno ar gyfer cymorth ariannol uniongyrchol yn ddarostyngedig i'r prism sydd wedi’i ddarparu gan y Galwadau i Weithredu.

 

Bydd y dull ar gyfer pob cais ar gyfer cyllid yn gymesur â maint, lleoliad, math o fusnes, y lleoliad y mae’n gweithredu ynddo a’r ffactorau economaidd macro a micro cyfredol i sicrhau ei fod yn gynhwysol o’r doreth o fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru.

 

Cronfa Dyfodol yr Economi

 

Mae Cronfa Dyfodol yr Economi yn fersiwn syml a rhesymol o sawl dull sydd eisoes yn bodoli, ac mae wedi ei greu drwy gysylltu’r cais, yr arfarnu a’r broses fonitro gyda'r meini prawf Galwadau i Weithredu. Mae’r gronfa wedi ei dylunio i fod yn ddigon hyblyg i sicrhau y gellir cyflwyno cynlluniau blaenoriaethau'r dyfodol gan ddefnyddio’r mecanwaith hwn.

 

Ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau canlynol yn rhan o Gronfa Dyfodol yr Economi

 

o   Buddsoddiad Cyfalaf a chymorth i greu swyddi

o   Datblygiad Ymchwil ac Arloesi

o   Cynllun Diogelu’r Amgylchedd

o   Cynllun cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth

o   Cyllid Cynhyrchu Creadigol

o   Cronfa ad-daladwy ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig.

 

Mae cyfuno'r cynlluniau hyn wedi galluogi i Lywodraeth Cymru greu un ffurflen gais sy’n cael yr un wybodaeth am fusnesau ar draws yr holl gynlluniau.

 

Mae gan bob cynllun sydd o fewn Cronfa Dyfodol yr Economi ei ganllaw ei hun; mae hyn yn darparu gwybodaeth am nifer o feysydd allweddol gan gynnwys meini prawf cymhwysedd, llwybrau cyfreithiol Cymorth Gwladwriaethol, asesiadau gwerth am arian ac asesiadau risg. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cydnabod yr heriau gwahanol o ee buddsoddiad ymchwil a datblygu yn ystod dyddiau cynnar busnes yn hytrach na phrosiect datblygu mewn busnes sydd eisoes wedi ei sefydlu.

 

Mae arfarniadau prosiectau’n cael eu cynnal gan ddefnyddio templed safonol i sicrhau ein bod yn gweithredu’n gyson.

 

Hyd yma, cymeradwywyd 96 o brosiectau o dan Gronfa Dyfodol yr Economi, gyda gwerth o £44m. Mae’r Galw i Weithredu wedi cael ei nodi fel rhan o’r arfarnu a’r broses monitro ar gyfer pob prosiect sydd wedi’i gymeradwyo.

 

Adran 3: Bwrdd Cynghori newydd y Gweinidog

 

Corff cynghori sy’n adrodd yn ôl i Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yw Bwrdd Cynghori’r Gweinidog (y Bwrdd). Cafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni ymrwymiad Cynllun Gweithredu Economaidd ar gyfer Bwrdd Cynghori cyffredinol y Gweinidog.

 

Prif nod y Bwrdd yw darparu cyngor prydlon a pherthnasol o safon uchel.  Mae hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru â'r gwaith o lunio polisïau, sganio'r gorwel a gwerthuso.  Trwy hynny, bydd y Bwrdd yn helpu i wella dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o dirwedd yr economi a busnesau, a’r ymatebion polisi sydd eu hangen er mwyn mynd i’r afael â heriau presennol, ac i ymateb i gyfleoedd yn y dyfodol.

 

Trwy gynnig rhagolwg a phersbectif yn seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd unigol, mae’r Bwrdd yn ategu at y ffynonellau cyngor presennol sy’n cael eu darparu gan y gwasanaeth sifil, partneriaid cymdeithasol a chyrff cynrychioladol y tu allan i Lywodraeth Cymru, ac yn ychwanegu gwerth atynt. 

 

Sir Adrian Webb yw Cadeirydd Bwrdd Cynghori’r Gweinidog.  Cafodd y Bwrdd ei benodi gan y Gweinidog yn ystod yr haf y llynedd ar sail interim, gyda phenodiadau cyhoeddus i ddilyn.  Cynhaliwyd proses o benodiadau cyhoeddus ar ddechrau’r flwyddyn, ond roedd yn aflwyddiannus - nid oedd digon o ymgeiswyr yn addas ar gyfer cael eu penodi, ac o’r rhai a oedd yn addas ar gyfer eu penodi, roedd yr amrywiaeth a’r cydbwysedd rhwng y rhywiau yn annigonol. 

Bydd y penodiadau cyhoeddus yn cael eu hailystyried.  Wrth weithredu mewn amgylchedd mor ansicr a chyfnewidiol o ganlyniad i Brexit a materion eraill, mae dadleuon cryf dros gynnal cysondeb yn ein trefniant cynghorol presennol.   Bydd proses hybrid yn debygol o ddilyn, gan gynnig ailbenodiad i aelodau presennol o'r Bwrdd a hoffai barhau, ac yna cynnal penodiadau cyhoeddus er mwyn llenwi'r mannau sy’n weddill.  Mae hyn yn debygol o ddigwydd dros yr haf/yn fuan yn ystod yr hydref. 

Mae gan Fwrdd Cynghori’r Gweinidog rôl ar wahân i rôl y Panel Buddsoddi a’r Bwrdd Cynghorol ar Ddatblygu Diwydiannol Cymru, fel yr amlinellir yn Adran 1 y papur hwn, ac nid yw’n chwarae unrhyw ran yn y gwaith o asesu prosiectau unigol. Pwerau cyfreithiol perthnasol Gweinidogion Cymru dros ddyfarnu cyllid yw Adran 7 o Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982, Adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, Adran 58a neu Adrannau 70, 71(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

 

Adran 4: Cydlyniaeth gyffredinol y gwahanol ffyrdd o ddarparu cymorth ariannol i fusnesau, gan gynnwys pa mor dryloyw yw cael mynediad at gymorth ariannol, yn ogystal â sut a pham mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu pa fecanwaith y mae’n ei ddefnyddio i ddarparu’r cymorth hwnnw

 

Cyflwyniad

 

Bydd mecanweithiau sydd wedi cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddarparu ymateb holistaidd i ofynion cyllido busnesau yn ystyried, yn y lle cyntaf, beth yw’r cynnig masnachol; dyma’r drefn ddiofyn gan nad rôl y llywodraeth yw dyblygu na chystadlu â’r sector preifat. Pan fo diffyg yn y farchnad y tu hwnt i gynnig y sector preifat yn cael ei nodi, bydd atebion Llywodraeth Cymru yn edrych i ddatblygu cynnyrch ariannol masnachol ad-daladwy fel sy’n cael ei ddarparu gan Fanc Datblygu Cymru, ac fel ateb terfynol, cynnyrch yn seiliedig ar grantiau.

 

Mae llawer wedi cael ei wneud ar lefel macro yn ystod y blynyddoedd diweddar i alluogi i fanciau her ddatblygu.  Un o ganlyniadau ehangu’r cynnig ariannol yw mwy o gymhlethdod a dryswch i berchnogion busnes wrth geisio deall a gweithio yn y tirlun ariannol. Mae’r broblem wedi newid yn y blynyddoedd diweddar o fod yn fater cyflenwyr i fod yn fater galw; adnabod cynigion busnes da, a’u paru â’r pecyn cymorth ariannol mwyaf addas ar eu cyfer.

 

Mae archwaeth am risg yn dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, a’r dybiaeth gychwynnol i Lywodraeth Cymru yw bod grant yn ddull cyllido pan fetha popeth arall.  Gan ddefnyddio cyllid ad-daladwy i ddechrau, ac yna defnyddio grant, gellir manteisio i’r eithaf ar werth am arian.

 

 

 

Busnes Cymru

 

Gwasanaeth cefnogaeth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru yw Busnes Cymru. Cafodd ei lansio ym mis Ionawr 2013, a’i adnewyddu ym mis Ionawr 2016 er mwyn ei gwneud yn haws i ficrofusnesau a BBaChau yng Nghymru, gan gynnwys mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid uchelgeisiol, gael mynediad at yr wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddechrau ac i ehangu eu busnesau.

 

Mae llawer o'r entrepreneuriaid a’r busnesau hyn yn chwilio am gyngor diduedd ar sut i gael mynediad at gyllid er mwyn eu helpu i wireddu eu cynlluniau. Mae Busnes Cymru hefyd yn arwain mynediad at nifer o fentrau traws Lywodraeth fel y Porth Sgiliau a chysylltiadau uniongyrchol â Gyrfa Cymru a’r tîm sector bwyd.

 

Mae mynediad at gyllid yn un o'r tasgau amlycaf sy’n cael ei nodi ar wefan Busnes Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth ar amryw o ddewisiadau cyllid, a sut i wneud cais amdanynt, gan gynnwys (benthyciadau masnachol a chynnyrch dyledion, cyllid ecwiti, lesio, gorddrafftiau, ffactoreiddio, cyllid torfol a grantiau ac ati).

 

Mae’r wefan yn cynnwys offeryn dod o hyd i gyllid, sy’n helpu defnyddwyr i ddod o hyd i ffrydiau cyllido posibl, gan gynnwys benthycwyr masnachol, cwmni Start Up Loans (sy’n rhan o Fanc Busnes Prydain), Banc Datblygu Cymru, (gan gynnwys Angel Invest Wales), chyfalafwyr menter ac eraill. Mae cwsmeriaid hefyd yn gallu cael rhagor o gyngor a chymorth trwy linell gymorth Busnes Cymru (ffôn, e-bost a sgwrsio byw). Yn dibynnu ar natur yr ymholiad a’u hanghenion ariannol, gall entrepreneuriaid a busnesau gael cynnig rhagor o gymorth wyneb yn wyneb mewn gweithdy neu mewn sesiwn un i un â chynghorydd Busnes Cymru neu gynghorydd arbenigol.

 

Fel arfer, mae cynghorwyr Busnes Cymru’n gweithio gan ddefnyddio proses diagnosteg gyda chwsmeriaid er mwyn eu helpu i ddeall eu hamcanion, i ddatblygu eu cynlluniau busnes ac i gyfrifo faint a pha fath o gyllid sydd ei angen arnynt.  Yna, bydd cynghorwyr yn gweithio gyda’r cwsmer er mwyn nodi amryw o atebion/cynnyrch cyllido posibl. Mae hyn yn cael ei wneud mewn ffordd ddiduedd pan fo hynny’n bosib, gan roi dewis i gwsmeriaid, a’u galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

 

Yn ogystal â bod yn ddiduedd, mae cynghorwyr Busnes Cymru hefyd yn gorfod rhoi cyngor cyfrifol. Mae hyn yn golygu y byddant hefyd yn rhoi cyngor i’r cleient ar unrhyw amheuon sylfaenol sydd ganddynt am hyfywedd eu busnes neu am eu syniad ar gyfer dechrau busnes, er mwyn sicrhau bod unrhyw geisiadau am gyllid yn cael eu gwneud gyda chyngor trydydd parti.

 

Bydd cynghorwyr hefyd yn helpu cwsmeriaid gan eu cyflwyno i gysylltiadau (ee mewn banciau masnachol, Banc Datblygu Cymru ac eraill) ac yn eu helpu gyda’r broses o wneud cais.

 

Ar gyfer cwmnïau sydd eisiau tyfu ar raddfa gyflym, gellir cynnig cymorth mwy dwys drwy raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Gall hyn gynnwys cymorth parodrwydd i fuddsoddi arbenigol a manwl er mwyn gwella’r siawns o sicrhau cyllid, weithiau gan sawl buddsoddwr neu syndicets eraill. Mae cynghorwyr Busnes Cymru’n rhoi cyngor diduedd i gwsmeriaid ynglŷn â ffurflenni cyllid yn ddiofyn, gan gyfeirio at ddewisiadau grant mewn achosion lle byddai angen hynny arnynt fel dewis olaf, neu er mwyn cyd-fynd â/i ysgogi cyllid arall.

 

Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi ym mhob cam o'r ffordd i ba gynllun fyddai’n gweithio orau, ac os mai grant ydyw, byddai’n cynnwys Cymorth Gwladwriaethol a’r isafswm sydd ei angen.  Mae’r pecyn ariannu’n cael ei gefnogi gan broses rheoli ymholiadau drwy’r wefan a’r llinell gymorth; ac mae aliniad rhwng adrannau Llywodraeth Cymru a’r ddarpariaeth gwybodaeth ddigidol drwy Busnes Cymru, fel y Canfyddwr Cyllid, yn sail bellach iddo.    

 

Mae Benthyciadau Cychwyn Busnes Llywodraeth y DU wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Hydref 2013.  Mae hyd at £25k o fenthyciad ar gael, ac maent yn rhan bwysig o Fusnes Cymru, a hyd at fis Hydref 2018, mae dros £22.9m wedi cael ei fuddsoddi mewn 2,609 o fusnesau sy’n cychwyn yng Nghymru, sy’n cyfateb ag 1 busnes bob dydd.

 

Cafodd y Gronfa Benthyciadau Microfusnesau Cymru ei lansio ym mis Hydref 2012, ac mae bellach yn cael ei ddarparu gan Fanc Datblygu Cymru. Mae’n cynnig benthyciadau rhwng £1k a £50k.  Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2019, mae’r Gronfa wedi cefnogi 711 o fusnesau, gan fuddsoddi £15.9m yn uniongyrchol, a denu dros £12.8m o gronfeydd pellach yn y sector preifat. Mae’r Gronfa wedi creu 1,679 o swyddi, ac wedi gwarchod 1,560 o swyddi.  Mae elfen menter gymdeithasol y gronfa wedi cefnogi 37 o fusnesau, gan fuddsoddi £900k yn uniongyrchol, a chreu 74 o swyddi, a gwarchod 134 o swyddi.

 

Banc Datblygu Cymru

 

Mae Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau yng Nghymru i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau arni, i gryfhau ac i ddatblygu. Mae’n cynnig benthyciadau o £1k hyd at £5m, yn ogystal â mesanîn a chyllido ecwiti.   Mae hefyd yn helpu busnesau i ddod o hyd i’r partner cyllid gorau er mwyn denu cyllid preifat gyda’i fwlch cyllid ei hun pan fo angen. 

 

Yn 2018, buddsoddodd Banc Datblygu Cymru £80m i’r economi yng Nghymru, gan gyrraedd ei darged 5 mlynedd o fewn 2 flynedd. Mae’r banc hwn yn cael ei ystyried fel model o arferion da, ac yn fenter flaengar yn y maes. Mae hefyd yn cael ei ystyried fel model cyflawni mewn gwledydd eraill, ee yr Alban.

 

 

Mae’r Banc bellach yn rheoli mwy na £1.1 biliwn o gronfeydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dros hanner biliwn o bunnoedd ar draws yr holl gronfeydd busnes, a’r £454 miliwn Help i Brynu – Cymru. 

 

Ers dechrau yn 2001 hyd at 31 Mawrth 2019, mae Cyllid Cymru/Banc Datblygu Cymru wedi:

 

-       Buddsoddi dros £600m mewn busnesau yng Nghymru.

-       Denu £800 miliwn yn ychwanegol o'r sector preifat.

-       Cael dylanwad ar tua £1.4 biliwn i’r economi yng Nghymru.

-       Creu neu ddiogelu dros 52,000 o swyddi.

 

 

 

Cronfeydd

Adrannau Llywodraeth Cymru

Swm (£m)

Cronfa Benthyciad Microfusnesau Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

18*

Cronfa Benthyciad Micro Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

16.2

Cronfa Twf Cyfalaf Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

25

Cronfa Technoleg yr Is-adran Cynaliadwyedd a Thystiolaeth Amgylcheddol Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

6

Cronfa Buddsoddiad Gwyddorau Bywyd

Economi a Thrafnidiaeth

50

Cronfa Buddsoddiad Mentrau Technoleg

Economi a Thrafnidiaeth

9.5

Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

25

Cronfa Fusnes Cymru

Economi a Thrafnidiaeth/WEFO

180.9

Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

130

Cronfa Datblygu Eiddo Cymru I

Economi a Thrafnidiaeth

10

Cronfa Cyd-fuddsoddiad Angel Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

8

Cronfa Technoleg yr Is-adran Cynaliadwyedd a Thystiolaeth Amgylcheddol Cymru II

Economi a Thrafnidiaeth

20

Cronfa Achub ac Ailstrwythuro Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

11

Cronfa Buddsoddiad Twristiaeth Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

50

Cronfa Eiddo Masnachol Cymru

Economi a Thrafnidiaeth

55

Cyfanswm

Economi a Thrafnidiaeth

 

614.64

Help i Brynu Cymru

Tai

454

Cronfa Datblygu Eiddo Cymru II

Tai

30.5

Cronfa Safleoedd Segur Cymru

Tai

40

Cyfanswm

Tai

524.5

Cronfa Ynni Lleol

Cyfoeth Naturiol

11.3

Cyfanswm

Cyfoeth Naturiol

4.9

CYFANSWM BANC DATBLYGU CYMRU - CYMRU

 

 

1,150.4

 

*Mae £1m o'r gronfa wedi’i ddyrannu ar gyfer buddsoddi mewn mentrau cymdeithasol. Mae’r elfen honno’n cael ei rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) mewn partneriaeth â’r Ymddiriedaeth Adfywio’r Meysydd Glo ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro.

 

Cefnogaeth Ehangach Llywodraeth Cymru i fusnesau

 

Dim ond rhan o'r ffordd y gall Lywodraeth Cymru gynnig cefnogaeth a chymorth i fusnesau yng Nghymru yw’r mecanweithiau uchod. Fe all Llywodraeth Cymru hefyd gynnig cymorth i bob sector o fewn yr economi ledled Cymru yn y ffyrdd canlynol:

 

·         Mae mwy na £300miliwn y flwyddyn yn cael ei ddarparu dan y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer busnesau gwledig ledled Cymru.

·         Mae mwy na £100miliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar gefnogi sgiliau, sy’n cael arian cyfatebol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

·         Ymyriadau penodol fel y Grant Datblygu Bwyd i gefnogi rhannau penodol o fewn yr economi.

 

Mae’r gefnogaeth hwn hefyd yn plethu gydag ymyriadau eraill sydd ar gael o fannau eraill yn y sector cyhoeddus gan awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU. Mae goruchwyliaeth o'r cymorth sydd ar gael yn cael ei ddarparu gan Fyrddau fel Traws Fwrdd Cyflenwi Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu’r Cynlluniau Gweithredu Economaidd, a Phwyllgor Monitro Rhaglenni WEFO.

 

 

Adran 5: Diweddariad ar Argymhellion

 

Gofynnodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ddiweddariad ar argymhellion y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y tri maes hwn:

 

•      Cylchffordd Cymru

•      Kancoat

•      Pinewood

 

Cylchffordd Cymru: Cafodd 13 o argymhellion yn adroddiad Cylchffordd Cymru. Mae 11 yn cael eu hystyried fel argymhellion sydd wedi dod i ben, ac mae 2 ohonynt ar waith. Mae’r ddau argymhelliad sydd ar waith yn ymwneud â p’un a yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio unrhyw gyfrifon escrow ers ymyrraeth Cylchffordd Cymru, a beth yw statws y ddyled o £7.3m.

 

Mae swyddogion yn gweithio i sefydlu a oes rhagor o gyfrifon escrow wedi cael u defnyddio yn Llywodraeth Cymru. Nid yw defnyddio’r cyfrifon hyn yn arfer cyffredin oherwydd y ffordd rydym fel arfer yn darparu cyllid i sefydliadau drwy grantiau, felly mae’r gwaith hwn yn cymryd hirach i’w gwblhau na’r oeddem wedi’i ragweld. O ran y ddyled sy’n ddyledus, mae swyddogion yn gweithio gyda chyfreithwyr er mwyn deall y debygoliaeth o adennill y ddyled sydd heb ei thalu. Rydym yn dal i ddisgwyl am y cyngor cyfreithiol terfynol, ac rydym yn disgwyl ei gael yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Bydd unrhyw benderfyniad yn ymwneud â’r ddyled yn cael ei wneud bryd hynny.     

 

Kancoat: Roedd 11 o argymhellion yn ymwneud â chymorth ariannol ar gyfer Kancoat. Mae’r rhain i gyd yn cael eu hystyried fel rhai sydd wedi dod i ben.

 

Pinewood: Cafodd 9 o argymhellion yn adroddiad Pinewood. Mae'r rhain i gyd ar waith gan mai’n ddiweddar y cyhoeddwyd yr adroddiad.